Gwybodaeth Ychwanegol

 

Gofodau Cymraeg

Yn ogystal a treialu syniadau newydd, mae ARFOR am adeiladu ar waith ARFOR 1 i greu gofodau Cymraeg. Gwnaethpwyd hyn yn benodol drwy gynlluniau fel Cymunedau Mentrus a phecynnau cefnogaeth i fusnesau.

Drwy ARFOR 2 fydd modd rhoi mwy o sylw i greu Gofodau Cymraeg newydd. Byddwn yn cyflawni hyn drwy roi anogaeth ac arweiniad o fewn y pecyn o gynlluniau fydd yn rhan o raglen Arfor 2. Y nod yn hyn o beth yw creu yr amgylchiadau gorau i bobl weithio, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg. Gall hyn gael ei wireddu drwy sector cyhoeddus; trydydd sector neu sector preifat.

Byddwn yn rhoi amodau mewn i llythyrau cynnig ar gyfer cefnogaeth ariannol i sicrhau fod derbynnwyr cyllid o’n cronfeydd yn cyfrannu at ein nod o greu Gofodau Cymraeg – a bod hynny yn ddisgwyliad cwbl naturiol o fewn rhaglen ARFOR. Yn ogystal mae cyfle i ni gomisiynnu ymchwil er mwyn creu gwaelodlin i ni allu deall yn well y nifer o Ofodau Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn barod yn Rhanbarth ARFOR a’u cyfraniad i’r economi ac i ddefnydd y Gymraeg. Yn ychwanegol i hyn byddwn yn ystyried sut mae ymyraethau ARFOR wedi cyfrannu at gynyddu y nifer o ofodau Cymraeg a’r effaith a ddaw yn sgil hyn o ran cyflwyno y Gymraeg ymysg cyflogwyr a sectorau amrywiol.

Gofodau Cymraeg – Bwrlwm ARFOR
Cynnig Cymraeg (comisiynyddygymraeg.cymru)
Helo Blod

Ail gartrefi a’r her dai leol

Mae cyfle i Rhaglen ARFOR i fod yn gerbyd ar gyfer rhannu gwersi a ddysgwyd a chydlynu arfer dda o rhan y gwaith sydd yn digwydd yn y maes tai yn Rhanbarthol, yn enwedig y gwaith yn gysylltiedig ag ail gartrefi ac effeithiau nifer uchel ohonynt o fewn ein cymunedau. Bydd cyfle yn ogystal i gyd-drafod a diweddaru ynglŷn a sut mae’r pedwar awdurdod yn mynd ati i weithredu pwerau newydd i ddelio ag ail gartrefi yn lleol – drwy strwythur Bwrdd ARFOR fydd yn cyfarfod yn chwarterol, wrth iddynt ddod yn weithredol.

Mae hefyd cyfle i drafod atebion arloesol a’u treialu a’u cefnogi trwy cronfeydd perthnasol megis Cymunedau Mentrus neu Cronfa Her i edrych a’r sut mae modd ymateb i’r heriau ddaw yn sgil niferoedd uchel o Ail Gartrefi a chynnig cyfleoedd i wneud tai yn fwy fforddiadwy i bobl a theuluoedd ifanc lleol o fewn cymunedau Arfor – gan gynnwys y cysylltiad rhwng yr angen lleol am dai creu cyfleoedd gwaith a chefnogi’r iaith.

Fel rhan o’r ymateb i’r heriau am dai fforddiadwy i bobll leol, mae yn fwriad i ARFOR fod yn cydweithio gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau cyswllt a chydweithio agos gyda’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg pan fydd wedi’i gyhoeddi yn yr hydref. Yn yr un modd bydd modd dysgu gwersi o brofiad y peilot, fforddiadwyedd ac ail gartrefi sydd yn weithredol yn ardal Dwyfor.

Digwyddiad Tai o Dan Arweiniad Cymunedau – Ceredigion

Cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor, a Perthyn

Cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor – Llywodraeth Cymru