Llwyddo’n Lleol 2050
Un o brosiectau Rhaglen Arfor yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.
Am fwy o fanylion ewch i www.llwyddonlleol2050.cymru.