Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Ail wedd ARFOR

Ar 10 Hydref 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.

Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn:

Cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.

Cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.

Bydd gwybodaeth ynglŷn â gweithgaredd ail wedd ARFOR yn dilyn maes o law; yn y cyfamser, gellir darllen cyhoeddiad Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

 

Gwedd gyntaf ARFOR

Yn 2019, yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, darparwyd £2 miliwn i Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i dreialu dulliau arloesol o gefnogi’r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg hyd at Mawrth 2021.

Roedd y gweithgaredd yn cynnwys:

  • darparu cymorth ariannol i gefnogi sefydlu a datblygu busnesau;
  • mentora pobl ifanc a’u cefnogi i fentro drwy law Llwyddo’n Lleol 2050;
  • hyrwyddo a rhannu straeon cadarnhaol am lwyddiant o fewn yr ardal;
  • cefnogi busnesau i sicrhau mynediad i offer cyfoes; a,
  • cefnogaeth i sefydlu a datblygu metrau cymdeithasol i warchod adnoddau allweddol o fewn gymunedau yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

Ymhlith canlyniadau gwedd gyntaf y Rhaglen dyma:

  • 154 o fusnesau yn derbyn cymorth;
  • 238 o swyddi cyfwerth llawn amser a 89 o swyddi rhan amser yn cael eu creu; a,
  • 226 o swyddi yn cael eu gwarchod.

Mae mwy o wybodaeth am y gweithgaredd a’r canlyniadau ar gael o:

Crynodeb Gweithredol Gwerthusiad o’r Rhaglen ARFOR – Wavehill Cyf., Hydref 2021

Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion Rhaglen ARFOR – Wavehill Cyf., Hydref 2021

Adroddiad Interim: llunio strategaeth datblygu ar gyfer y dyfodol – Wavehill Cyf., Chwefror 2021

Amcanion strategol Rhaglen ARFOR

  1. Creu cyfleoedd i pobl a teuluoedd ifanc (≤ 35 oed) aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid – gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau.
  2. Creu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol gan fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
  3. Uchafu budd gweithgaredd drwy gydweithio – drwy sefydlu meddylfryd dysgu drwy wneud a gwella parhaus, dysgu o weithgaredd o fewn ardaloedd unigol ac yna ei ymestyn, ond gyda teilwra i amgylchiadau lleol.
  4. Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog naws am le a theyrngarwch lleol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyffredin ar draws yr rhanbarth.